
About
Mae gan Gwalia United gynlluniau uchelgeisiol iawn. Stadiwm newydd, chwaraewyr yng ngharfan Cymru ac, yn bennaf oll, cyrraedd prif adran clybiau Lloegr, y Women's Super League. Hyn oll o fewn y pum mlynedd nesaf.
Dau yng nghanol y prosiect ydi Trystan Bevan a Casi Gregson. Tra bod Trystan yn defnyddio ei brofiad helaeth ym myd rygbi proffesiynol i geisio gosod y sylfaen am gynnydd a llwyddiant oddi ar y cae, sgorio goliau yw nod Casi er mwyn cychwyn y daith o drydedd haen Lloegr i'r brig. Mae'r ddau yn esbonio wrth Ows a Mal sut yn union maen nhw'n bwriadu gwneud hynny...