Cymru'n symud cartref a Parky dan bwysau
18 September 2025

Cymru'n symud cartref a Parky dan bwysau

Y Coridor Ansicrwydd

About

Mae bron i saith mlynedd bellach wedi mynd heibio ers i Gymru chwarae yn Stadiwm Principality, ond fydd hynny'n newid cyn hir o dan gynllun Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Ymateb cymysg sydd wedi bod gan y cefnogwyr, ond mae Ows a Mal yn gweld synnwyr y syniad er mwyn paratoi at y posibilrwydd o chwarae gemau yn y stadiwm yn Ewro 2026...cyn belled bod gemau rhagbrofol ddim yn symud o Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mae cryn amser hefyd ers i Wrecsam golli gymaint o gemau. QPR oedd y diweddaraf i guro criw y Cae Ras ddydd Sadwrn. Oes 'na bwysau ar y rheolwr Phil Parkinson? Mae gan Ows neges chwyrn at unrhyw gefnogwr sy'n galw am ei ddiswyddo. Ac mae gan Dyl her annisgwyl i Conor Coady...