
Mae teledu annibynnol yn 70 oed.
Dechreuwyd y rhwydwaith yn Llundain ym mis Medi 1955.
Yn y bennod hon mae'r Athro Jamie Medhurst yn sôn am yr ymgyrch i dorri monopoli'r BBC wedi'r ail ryfel byd a ffurfio teledu annibynnol.
Hefyd, rhan bwysig Cymro Cymraeg o Gwmgwrs wrth ffurfio'r syniad o gyfundrefn ranbarthol + rhaglenni agroriadol rhyfedd ambell i orsaf ITV.
Dyma lyfr Jamie am ITV yng Nghymru: https://www.gwasgprifysgolcymru.org/book/history-of-independent-television-in-wales
Cerddoriaeth gloi: “Widespread World” gan John Dankworth, arwyddgân Redifusion rhwng 1964 a 1968.
Mwy am noson gyntaf ITV: https://transdiffusion.org/2015/09/22/tonights-itv-in-1955
Unrhyw atgofion o ITV cynnar? A oeddech chi'n gwylio neu'n cymryd rhan?
Cysylltwch â rhaglencymru@hotmail.com
Tro nesaf - ITV a Chymru ... stori a hanner. Sgandal, heriau daearyddol a gwleidyddiaeth o bob lliw a llun.