Skip to content
zeno
Create a Station
Explore
Religious
Music
News
Podcasts
Bible
By Genre
By Location
By Language
Download App
Opens in a new window
Toggle Sidebar
zeno
Cynan Anwyl
'Di'r helmed yn ffitio?
Football
Welsh
Podlediad Cymraeg sy'n ceisio esbonio bob dim Pêl-droed Americanaidd mewn ffordd syml ac anffurfiol.
Cyflwyniad Cymraeg i'r NFL.
Website
Episodes
Episodes
23
09 August 2026
Cyfres 02 Pennod 08 - HAYDN YEOMANS YN YMUNO, SGWRSIO AM HANES COBRAS CAERDYDD, HANES CHWARAE AR Y LEFEL UCHAF YM MHRIFYSGOLION PRYDAIN, SUT HWYL CEITH Y DOLPHINS TYMOR YMA?
Yn y bennod yma dwi'n ffodus iawn i fod gyda Haydn Yeomans, llywydd Cobras Caerdydd a chwaraewr i Rhyfelwyr De Cymru. Dwi'n holi Haydn amdan ei brofiad yn chwarae ac yna yn holi sut hwyl ceith ei Miami Dolphins yn yr NFL tymor yma.
58 min
29 July 2026
Cyfres 02 Pennod 07 - IOAN FURNHAM YN YMUNO, CHWARAE YN ABERTAWE A BRUNEL, HYFFORDDI YNG NGHYMRU AC HANES YR EAGLES.....ETO
Yn y bennod yma dwi'n ffodus iawn i fod gyda Ioan Furnham, gyn-chwaraewr y Swansea Titans a Brunel Burners. Dwi'n holi Ioan amdan ei brofiad yn chwarae ar hyd pob lefel yn yr wlad gan gynnwys chwarae i tîm rhyfelwyr De Cymru. Yna i gloi y bennod, dwi'n holi Ioan amdan ei Eagles a sut hwyl mae o'n meddwl y cawn nhw tymor yma.
1 h 18 min
15 July 2026
Cyfres 02 Pennod 06 - AARON DONALD NOL YN YR NFL, CHWARAEWYR GYDA'R MWYAF I BROFI, GWOBRAU PODLEDIADAU CYMRAEG
Yn y chweched bennod o'r bodlediad dwi'n cyfri'r dyddiau tan gychwyn y tymor trwy edrych ar y newyddion diweddaraf o'r NFL, gan gynnwys rhestru'r chwaraewyr dwi'n credu sydd gyda'r mwyaf i brofi tymor nesaf. Mae gen i fach o newyddion da i rannu hefyd o'r gwobrau podlediadau Cymraeg.
48 min
20 May 2026
Cyfres 02 Pennod 05 - YR OCTAGON KNIGHTS, PÊL-DROED AMERICANAIDD YNG NGHYMRU, GWILYM EVANS YN YMUNO
Yn y bumed bennod o "Di'r Helmed yn Ffitio?", dwi yng nghwmni Gwilym Evans, gyn-chwaraewr Yr Octagon Knights. Mi fyddai yn holi Gwilym amdan ei hanes yn chwarae yng Nghaernarfon a'i gysylltiad teuluol yn Seattle.
58 min
12 May 2026
Cyfres 02 Pennod 04 - Dadansoddiad o ddrafft 2026. Pa dîm wnaeth cael y drafft gorau?
Yn y bennod yma mi fyddai yn trafod gydag Iwan pwy dani'n tybio cafodd y drafft gorau blwyddyn yma. Mi fydd y ni'n enwi cwpwl o chwaraewyr sydd wedi dal ein sylw gan hefyd cynnwys y timau a wnaeth methu'r marc yn y broses.
1 h 39 min
01 May 2026
Cyfres 02 Pennod 03 - Y South Wales Warriors a'r gêm yng Nghymru, hyfforddi ym Mhrydain ac yr Indianapolis Colts.
Yn y bennod yma mi fyddai yn siarad gyda Phrif Hyfforddwr Y South Wales Warriors, Jacob Law. Fyddai'n holi sut cafodd o fewn i'r byd Pêl-droed Americanaidd a sut wnaeth o gychwyn hyfforddi hefyd. Mae'r bennod yma yn y Saesneg yn anffodus ond toddwn i fethu a pheidio cyfweld a hyfforddwr yr unig dîm Pêl-droed Americanaidd yng Nghymru!
1 h 8 min
23 April 2026
Cyfres 02 Pennod 02 - Rownd cyntaf y drafft. James Kellett yn ymuno ac yn rhagfynegi be fydd yn digwydd yn rownd cyntaf y drafft. Fydd yna drama ar y noson?
Yn y bennod yma mi fyddai yn siarad gyda James Kellett o'r podlediad "Who's Got the Ball" i drafod gweddill o'r drafft. Mi fydd y ni yn ceisio rhagfynegi pa timau fydd yn creu drama ar y noson, a pa chwaraewyr dani'n credu sydd angen fwy o sylw. Mae’r bennod yma wedi ei ddarparu trwy gyfrwng y Saesneg.
1 h 4 min
20 April 2026
Cyfres 02 Pennod 01 - Y Drafft. Iwan Llewelyn yn ymuno i trafod y rownd cyntaf gan hefyd son am ei Philadelphia Eagles
Yn y bennod yma mi fyddai yn dadansoddi rownd cyntaf y drafft gyda Iwan Llewelyn gan hefyd clywed sut cychwynodd o gwylio'r gamp a cefnogi'r Eagles. Dyma'r pennod cyntaf o'r ail gyfres.
1 h 53 min
07 February 2026
Pennod 15 - Y SUPERBOWL! Dyfed Cynan a Guto Williams yn ymuno i rhagfynegu ac edrych yn ôl ar tymor gwych o'r NFL.
Yn y bennod yma mi fyddai yn holi Dyfed Cynan a Guto Williams, sut wnaeth y nhw cychwyn gwylio'r NFL a sut tymor mae'r Dolphins a'r Falcons wedi'i gael? Fydd y ni'n rhoid ein barn ar y gêm fawr Dydd Sul yma rhwng Y Seahawks a'r Patriots a fydd y ni hefyd yn rhestru ein Arwr a Cachwr y Mis.
1 h 13 min
17 January 2026
Pennod 14 - Y Playoffs. Ydi hi dal yn heulog yn Philadelphia? Superbowl Y Broncos i'w golli?
Yn y bennod yma mi fyddai yn edrych nol ar rownd cyntaf Y Playoffs gan hefyd rhoi fy marn ar y gemau i'w ddod penwythnos yma. Pwy sy'n barod am Y Superbowl?
55 min