Skip to content
Opens in a new window
Under Salt Marsh
17 March 2026

Under Salt Marsh

Ar Y Soffa

About
Un arall o ddramâu trosedd sydd dan sylw’r mis yma yw Under Salt Marsh.

Mae’r gyfres chwe phennod yn dilyn Jackie Ellis, cyn-dditectif sydd bellach yn athrawes yn nhref arfordirol Morfa Halen.

Pan ddarganfyddir corff ei myfyriwr, Cefin, wedi boddi, mae’r digwyddiad yn ysgwyd y gymuned ac yn gorfodi Jackie i ddychwelyd at ei gorffennol.

Mae’r gyfres yn archwilio themâu fel cyfrinachau mewn cymunedau bach, galar, a’r ffordd y mae’r gorffennol yn parhau i effeithio ar y presennol.

Ond sut mae’r Gymraeg yn cael ei chyfleu yn y gyfres? A beth yw barn Kate a Gwilym am y ddrama?

Gwrandewch ar bodlediad Ar y Soffa i glywed mwy.

Dyma Golwg yn cyflwyno Ar Y Soffa, y podlediad sy’n trafod a dadansoddi yr hen a newydd yn sîn diwydiant ffilm a theledu Cymru.

Podlediad sy’n cael ei gyflwyno gan Dr Kate Woodward, darlithydd o adran theatr, ffilm a theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth, a Gwilym Dwyfor, colofnydd Ar Y Soffa yng nghylchgrawn Golwg.