About
Yn y bennod hon o Ar y Soffa, mae Gwilym Dwyfor a Kate Woodward yn trafod y ffilm newydd, Effi o Blaenau.
Mae'r ffilm yn dilyn Effi, merch ifanc o Flaenau Ffestiniog sy'n byw gyda'i mam-gu. Ei harfer wythnosol yw mynd allan gyda'i ffrindiau, nes bod un noson yn Llandudno yn rhoi cipolwg iddi ar fywyd cwbl wahanol.
Wrth i'r stori ddatblygu, mae'r ffilm yn archwilio themâu fel tlodi, dosbarth cymdeithasol, teulu a'r penderfyniadau sy'n gallu newid cwrs bywyd.
Yn y bennod, mae Gwilym a Kate yn trafod sut mae Effi o Blaenau yn ymdrin â'r themâu hyn, yn ogystal â'r perfformiadau, y cymeriadau a'r croeso y mae wedi'i gael ym myd ffilm.
Dyma Golwg yn cyflwyno Ar Y Soffa, y podlediad sy’n trafod a dadansoddi yr hen a newydd yn sîn diwydiant ffilm a theledu Cymru.
Podlediad sy’n cael ei gyflwyno gan Dr Kate Woodward, darlithydd o adran theatr, ffilm a theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth, a Gwilym Dwyfor, colofnydd Ar Y Soffa yng nghylchgrawn Golwg.