Skip to content
Opens in a new window
Anfamol
21 April 2026

Anfamol

Ar Y Soffa

About
Yn y bennod hon o Ar y Soffa, mae Kate Woodward a Gwilym Dwyfor yn trafod ail gyfres Amfamol.

Yn dilyn ei thaith i famolaeth yn y gyfres gyntaf, mae Cyfres 2 yn gweld Ani yn llywio heriau bod yn fam sy’n gweithio wrth geisio dod o hyd i gariad.

Mae’r gyfres yn mynd i’r afael â pherthnasoedd deurywiol, hunan-dderbyn a phrofiadau rhianta cwiar a chyfoes, gyda chyfuniad o onestrwydd a hiwmor.

Ac efallai nad dyma’r tro olaf i ni weld Ani chwaith…

Beth yw barn Kate a Gwilym?

Ar gael ar bob platfform podlediadau.


Dyma Golwg yn cyflwyno Ar Y Soffa, y podlediad sy’n trafod a dadansoddi yr hen a newydd yn sîn diwydiant ffilm a theledu Cymru.

Podlediad sy’n cael ei gyflwyno gan Dr Kate Woodward, darlithydd o adran theatr, ffilm a theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth, a Gwilym Dwyfor, colofnydd Ar Y Soffa yng nghylchgrawn Golwg.